Mynediad byd-eang i addysg

Mynediad byd-eang i addysg
Enghraifft o'r canlynolhawliau dynol Edit this on Wikidata
Rhan oyr hawl i addysg Edit this on Wikidata

Mynediad byd-eang i addysg[1] (neu o fewn gwlad arbennig, Mynediad cyffredinol i addysg; Universal access to education) yw'r ddelfryd o addysgu pawb, ar draws y bwrdd, waeth beth fo'u dosbarth cymdeithasol, hil, rhyw, rhywioldeb, cefndir ethnig neu anableddau corfforol a meddyliol.[2] Defnyddir y term yn aml yn y broses o dderbyn myfyrwyr i goleg, yn enwedig yn y dosbarthiadau canol ac is, ac mewn technoleg gynorthwyol [3] yr anabl. Barn rhai beirniaid yw bod y drefn hon, yn hytrach na theilyngdod caeth (meritocratiaeth), yn achosi safonau academaidd is.[4] Er mwyn hwyluso mynediad addysg i bawb, mae gan wledydd bolisiau sy'n sicrhau'r hawl i addysg.[5]

Mae mynediad byd-eang (neu gyffredinol) i addysg yn annog amrywiaeth o ddulliau pedagogaidd i ledaenu gwybodaeth ar draws amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol, diwylliannol, economaidd, cenedlaethol a biolegol. Fe'i ffurfiwyd, ar y ddechrau gyda'r pwyslais ar gyfle cyfartal a chynnwys myfyrwyr ag anableddau dysgu neu gorfforol a meddyliol, ond mae bellach wedi ehangu ar draws pob math o allu ac amrywiaeth (diversity). Fodd bynnag, gan fod y diffiniad o amrywiaeth ynddo'i hun yn gyfuniad eang, bydd athrawon sy'n ymarfer mynediad i bawb yn wynebu heriau parhaus ac yn addasu eu cynllun gwers i feithrin themâu sy'n ymwneud â chyfle cyfartal yn y byd addysg.[6]

Gall mynediad cyffredinol (ar draws y bwrdd) i addysg coleg gynnwys darparu amrywiaeth o wahanol ddulliau asesu o ddysgu a chofio gwybodaeth. Er enghraifft, er mwyn penderfynu faint o'r deunydd a ddysgwyd, gall athro ymrestru sawl dull asesu: gall y dulliau asesu gynnwys arholiad cynhwysfawr, arholiadau uned, portffolios, papurau ymchwil, adolygiadau llenyddiaeth, arholiad llafar neu aseiniadau gwaith cartref.[7] Bydd darparu amryw o ffyrdd i asesu maint y dysgu a'r cofio nid yn unig yn nodi'r bylchau mewn mynediad cyffredinol ond gall hefyd egluro'r ffyrdd o wella mynediad cyffredinol.

  1. "Universal Access to Primary Education - World Affairs Council". www.wacphila.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-01. Cyrchwyd 2018-07-01.
  2. "Universal Access to Learning Improves all Countries | Global Campaign For Education United States Chapter". Global Campaign For Education United States Chapter (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2018-07-01.
  3. "Definition of Assistive Technology". www.gpat.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-17. Cyrchwyd 2018-07-01.
  4. MacDonald, Heather (Spring 2018). "How Identity Politics Is Harming the Sciences". City Journal. Manhattan Institute. Cyrchwyd 12 Mehefin 2018. Lowering standards and diverting scientists’ energy into combating phantom sexism and racism is reckless in a highly competitive, ruthless, and unforgiving global marketplace.
  5. "Understanding education as a right". Right to Education Initiative (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-01.
  6. "Equal Right, Equal Opportunity – Inclusive Education for All | Education". www.unesco.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-01.
  7. "Methods of assessment". www.brookes.ac.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-01. Cyrchwyd 2018-07-01.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search